You are in: Cymru/Wales : Cymru : Y Fenter Cyflogaeth Teuluoedd

Dydd Iau 17 Mai 2012

Y Fenter Cyflogaeth Teuluoedd

Mae’r prosiect yn rhagflaenydd i hyfforddiant a chyflogaeth ac yn defnyddio rhaglen ymglymiad arbenigol i greu llwybrau o gefnogaeth i unigolion a theuluoedd mewn ardaloedd a dargedwyd trwy wneud defnydd o amrywiaeth o dechnegau. Bydd y technegau hyn yn cynnwys ymyriadau cynhwysiant cymdeithasol megis gwirfoddoli a gweithgarwch grwp a chymunedol. Oherwydd proffil uchel a chynyddol bwysig pryderon amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd bydd gweithgarwch amgylcheddol yn un dechneg a ddefnyddir i gynyddu ymglymiad a gweithgarwch economaidd.

Ni fydd y prosiect hwn yn cynnig unrhyw hyfforddiant ffurfiol na llwybrau i gyflogaeth ond bydd yn darparu cyfleoedd i wirfoddoli. Bydd hyn yn arwain y cyfranogwyr i ymlynu/ail-ymglymu er mwyn adeiladu ar eu hyder ac yn caniatáu iddynt gymeryd y cam nesaf.

Bydd y dynesiad hwn yn sicrhau bod y rhai anoddaf eu cyrraedd yn medru ymglymu a bod rhwystrau wedi cael sylw cyn i’r cyfranogwyr gychwyn ar hyfforddiant a chyflogaeth. Gyda’r rhwystrau wedi eu dileu bydd cynaladwyedd yr hyfforddiant a’r gyflogaeth yn cynyddu. Yn ogystal bydd y prosiect yn cynyddu’r gweithgarwch economaidd parhaus ac yn gweithio oddi mewn i ffiniau model sy’n dderbyniol gan y gymuned ac yn ei hannog i gyfranogi’n llawn ynddo.

Bydd BTCV yn sicrhau danfoniad uniongyrchol:

  • Ymglymiad arbenigol uniongyrchol gyda chymunedau ac unigolion
  • Yn cynnig ac yn darparu dewis eang o gyfleoedd gwirfoddoli
  • Yn darparu cefnogaeth sgiliau ‘meddal’ e.e. adeiladau ar hyder, rheolaeth amser, adeiladu tîm
  • Cefnogaeth i ymglymu gyda rhaglenni eraill i gymeryd y cam nesaf yn unol â’r athroniaeth "Arwyddbost"
  • I drefnu dadansoddiad sgiliau i bob cyfranogwr a datblygu dogfen weithredol y gellir ei datblygu wrth i’r cyfranogwr symud trwy’r Prosiect.

Bydd BTCV yn cefnogi pobl gyda:

  • Pontydd i fyd gwaith (yr holl sgiliau a gynigir ganddynt fel cafodd y rheini eu harenwi yn nadansoddiad sgiliau’r cyfranogwyr)
  • Strategaeth Pennau’r Cymoedd a’r Ddinas (ar gyfer hyfforddiant penodol yn gysylltiedig â chyflogaeth)
  • Y Farchnad Lafur Ganolradd (Lams, ayb)
  • Timau gweithredu ar gyfer Swyddi (ar gyfer hyfforddiant penodol yn gysylltiedig â chyflogaeth)

Amcanion:

  • Cynorthwyo unigolion a theuluoedd i oresgyn effeithiau economaidd a chymdeithasol derbyn budd-daliadau tymor hir trwy gynnig cefnogaeth i’r sawl a fu’n anactif am gyfnod maith fel man cychwyn i hyfforddiant a chyflogaeth.
  • I dargedu cyfranogwyr sydd wedi methu bod yn rhan o raglenni cyflogaeth ac wedi bod yn analluog i gynnal eu cyflogaeth oherwydd y rhwystrau sydd wedi bod ar eu ffordd.
  • Cynorthwyo teuluoedd i herio rhwystrau personol a chymdeithasol trwy gyfrwng gwirfoddoli, treialon gwaith ayb. a chynyddu eu dyheadau hwy eu hunain a rhai eu cymdogion.
  • I wneud yn fawr o effaith cydweithrediad rhwng y rhwydweithiau a’r strwythurau sydd ar gael ar lefel cymdogaethau. Cynyddu effaith dynesiad traws-sector i sgiliau a bylchau yn y farchnad gyflogaeth e.e. gweithgarwch i gefnogi gweithio ar y cyd rhwng cyfleoedd cyflogaeth a’r sector iechyd, gan gynnwys gweithio gyda meddygon teulu a darparwyr gofal cynradd. Darparu cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar y gallu i weithio a gwneud yn fawr o gyfleoedd i ddod o hyd i gyflogaeth i ddynion a merched mewn rolau nad ydynt yn rhai traddodiadol er mwyn diwallu’r anghenion lle mae prinder sgiliau.
  • Defnyddio prosiectau graddfa fechan sy’n cael eu harwain gan gymunedau a fydd yn darparu ymglymiad yn gysylltiedig â hyfforddiant a chyflogaeth.
  • I annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth er mwyn gwella eu sgiliau neu roi iddynt sgiliau newydd ac i gymell a chefnogi cyflogwyr gan eu hannog i gyflogi unigolion hwn.
  • Bydd y rhaglen yn datblygu hyder a sgiliau penodol, trosglwyddadwy, trwy ymglymu cymunedau ac unigolion mewn amrywiaeth o dechnegau a fydd yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth. Mewn rhai ardaloedd lle mae diweithdra yn uchel, gall hyd at dair cenhedlaeth yn yr un teulu gaffael sgiliau a chymwysterau a fydd yn gwella eu siawns o gyflogaeth. Mae gan y rhaglen gysylltiadau uniongyrchol gyda chyflogwyr lleol.
  • Bydd y rhaglen yn mynd i’r afael ag afiechyd fel rhywbeth sy’n rhwystr i weithgarwch economaidd. Mae nifer o weithgareddau dan y pennawd bras "Ymarfer Gwyrdd - Y Gwasanaeth Iechyd Naturiol" – (gan gynnwys Campfeydd Gwyrdd, cerdded, seiclo, defnyddio rhandiroedd ar y cyd) ar gael i gyfranogwyr MCT er mwyn gwella eu hiechyd a'u ffitrwydd.