Ymarferion Gwyrdd

"Fe es i i’r ganolfan iechyd .... a gweld Y Gampfa Werdd yn cael ei hysbysebu a meddwl “Wow! Lladd dau dderyn gydag un ergyd – mynd dipyn yn iachach a gwarchod yr amgylchedd hefyd”. Roedd yn ymddangos fel syniad da iawn i mi felly fe ymunais."
Wyddoch chi fod helpu gyda phroject amgylcheddol yr un mor iachus ag ymarfer mewn campfa?
Byddwn yn cynnal lot o wahanol weithgareddau er mwyn eich helpu i ddod yn fwy ffit tra'n helpu'r amgylchedd. Er enghraifft y Gampfa Werdd, sy'n cynnig gwaith aerobig da a lot o hwyl, heb sôn am dyfu bwydydd iach a garddio.
Mae'r amgylchedd yn cynnig cymaint o bethau - beth allai wneud i chi?
Mae BTCV Cymru yn hynod o falch o gydnabod y gefnogaeth ariannol a’r gefnogaeth o ran polisi y mae wedi eu derbyn i ddatblygu’r Gampfa Werdd a’r syniadau ynghylch tyfu’n fwy gwyrdd oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Gwasanaeth Hybu Iechyd Cenedlaethol Cymru, Amgylchedd Cymru, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, y Loteri Fawr a nifer o Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG, Cynghorau Bwrdeistref a Byrddau Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf.


